Pigo Dy Drwyn

Buodd blynyddoedd 5 a 6 i’r stiwdios yng Nghaerdydd i ffilmio ar gyfer rhaglen boblogaidd Stwnsh, sef Pigo dy drwyn.

Fe fydd y rhaglen yn gael ei ddarlledu rhywbryd ym mis Medi. Mwy o fanylion i ddilyn …

Llangrannog 2017

Mwynhaodd blwyddyn 6 eu hamser yng Ngwersyll Llangrannog lle gwnaethant nifer o weithgareddau megis:

  • sgïo
  • raffau uchel
  • nofio
  • disco
  • cwis
  • gweithgareddau adeiladu tîm
  • gwib-gartio
  • marchogaeth ceffylau.

Plant Mewn Angen 2017

DEWISODD Y SGWOD ECO Y GWEITHGAREDDAU CANLYNOL AR GYFER CODI ARIAN ELENI:

  • gwyneb smotiog glitr
  • gwerthu cacennau siocled
  • casglu punnoedd rownd
  • gwisgo dillad smotiog.

Codwyd dros £300 tuag at yr achos arbennig hwn.

Llandysul Paddlers

Aeth dosbarth Brasil i Landysul i ddysgu am afonydd cyn troi eu dwylo at caiaco.