Clybiau

Rhedir clwb yr Urdd bob nos Fercher o 3:30yp tan 4:30yp ar gyfer dosbarthiadau Sbaen, Portiwgal a Brasil. Trefnwyd y clwb gan yr athrawon sy’n trefnu gweithgareddau amrywiol yn wythnosol. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • celf a chrefft
  • helfa drysor
  • TGCH
  • cwis
  • canu a pherfformio
  • chwaraeon.

Darparir nifer o glybiau yn ystod yr wythnos ysgol:

  • Eco
  • Chwaraeon (cynhaliwyd gan y Llysgenhadon Efydd)
  • Perfformio
  • Codio (clwb ar ôl ysgol wedi ei amserlenni)
  • Cilomedr dyddiol.

Mae’r Clwb Joio yn cael ei drefnu gan Menter Cwm Gwendraeth. Cynhaliwyd y clwb bob pnawn Llun a Iau o 3 tan 5yh.

Os am fwcio lle, cysylltwch â ‘r Fenter yn uniongyrchol ar 01269 871600.